Ymgeiswyr Plaid Cymru i’r Senedd yn ategu galwad i amddiffyn y Sgarlets
Mae Cefin Campbell a Mari Arthur, ymgeiswyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer etholiad y Senedd fis nesaf, wedi galw unwaith eto ar Undeb Rygbi Cymru (WRU) i amddiffyn y Sgarlets mewn unrhyw gynlluniau ar gyfer dyfodol rygbi proffesiynol yng Nghymru.
Daw hyn ar ôl i Gyfarfod Cyffredinol Eithriadol yr undeb gael ei gynnal wythnos diwethaf yng Nghaerdydd ar ôl i fwy na 50 o glybiau fynnu atebolrwydd gan yr arweinyddiaeth.
Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin wedi dadlau’n gyson dros gadw rygbi proffesiynol yn y rhanbarth, gan dynnu sylw at y swm o £17 miliwn mae’r Sgarlets yn ei gyfrannu i'r economi leol a'r 400 o swyddi llawn amser a rhan-amser sy’n cael eu cefnogi gan y clwb. Mae gan y clwb hefyd hanes cyfoethog o gynhyrchu chwaraewyr byd-enwog, gan gyfrannu 34% o chwaraewyr rhyngwladol Cymru yn y ddegawd ddiwethaf yn unig.
Cyflwynodd Cefin Campbell ac Adam Price, dau sy’n ceisio cael eu hail-etholiad fel ymgeiswyr Plaid Cymru i'r Senedd dros Sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag AS Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, Ann Davies, ymateb ffurfiol i ymgynghoriad y WRU y llynedd, gan ddatgan na fyddai diddymu'r Scarlets yn datrys methiant arweinyddiaeth yr undeb dros rygbi proffesiynol yng Nghymru.
Dywedodd cefnogwr gydol oes y Sgarlets a phrif ymgeisydd Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin, Cefin Campbell:
"Fel miloedd yng ngorllewin Cymru, mae'r clwb yma yn rhan o’n DNA. Rwy'n gefnogwr brwd o'r Sgarlets ac yn rhannu rhwystredigaeth cefnogwyr ledled y gorllewin ynghylch y dryswch a'r cynlluniau aneglur gan Undeb Rygbi Cymru.
"Wrth eu gwylio nhw'n chwarae yn erbyn Caerdydd dros y penwythnos, fe bwysodd y perygl o golli’r clwb hwn – sydd wedi bwydo cymaint o gewri i'r tîm cenedlaethol, o Phil Bennett, Delme Thomas a Ray Gravell i Stephen Jones a Ken Owens i enwi ond ychydig – yn drwm ar fy meddwl. Byddai’r effaith economaidd a chymdeithasol ar y rhanbarth yn anferthol."
"Rwyf hefyd yn gefnogwr o rygbi’r clybiau ym mhob ffurf. Y Gweilch yw ein cymdogion a'n prif elynion ar y cae ac mae'r gystadleuaeth a’r hanes hyn yn rhan o beth sy'n gwneud y gêm yma mor arbennig. Ni ddylai Undeb Rygbi Cymru orfodi gorllewin Cymru i ddewis rhwng clybiau a’i gilydd.”
Dywedodd Mari Arthur, sydd hefyd yn ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholiad ym mis Mai:
"Rwyf mor falch ein bod ni fel cynrychiolwyr Plaid Cymru yn yr ardal wedi arwain y ffordd wrth amddiffyn y Sgarlets dros fisoedd a blynyddoedd o ansicrwydd ynghylch eu dyfodol. Rydym wedi ei gwneud yn gwbl glir i Undeb Rygbi Cymru ein bod yn gwrthwynebu'n sylfaenol unrhyw gynllun sy'n peryglu dyfodol y Sgarlets. Yn anffodus, mae'r bygythiad hwnnw'n dal i bwyso’n drwm ar ein clwb.
"Mae'r Sgarlets yn allweddol i hunaniaeth ac economi'r rhanbarth hwn ac maent yn gonglfaen i'r gêm yn genedlaethol. Rydym yn galw am arweinyddiaeth newydd i Undeb Rygbi Cymru gan ofyn iddynt i ddechrau eto: i oedi'r cynllun hwn, ystyried opsiynau eraill, ac amddiffyn dyfodol hirdymor y Sgarlets."
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
-
Mae llun o Cefin Campbell, prif ymgeisydd Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin yng ngêm y Sgarlets yn erbyn Caerdydd ddydd Sadwrn wedi'i atodi.
-
Sefydlwyd Clwb Rygbi Llanelli ym 1872; lansiwyd brand rhanbarthol y Sgarlets ar 7 Gorffennaf 2003.
-
Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol (CEG) Undeb Rygbi Cymru ddydd Llun 13 Ebrill 2026. Ymddiswyddodd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, ar 16 Gorffennaf 2026. Ymddiswyddodd cyn-gadeirydd y PRB, Malcolm Wall, ym mis Mawrth 2026.
-
Yr opsiwn gwreiddiol a ffefrid gan Undeb Rygbi Cymru oedd model dau ranbarth. Diwygiodd yr ymgynghoriad hwn i dri rhanbarth ond dim ond un drwydded yng ngorllewin Cymru sydd ar ôl o hyd, gan osod y Sgarlets yn erbyn y Gweilch.
-
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Owain Meirion 07932 901942.