Newyddion

Rhun ap Iorwerth yn ymweld â Chaerfyrddin cyn etholiad hanesyddol i’r Senedd

Bu Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn ymgyrchu yn nhref Caerfyrddin heddiw (dydd Mercher, 29 Ebrill), ychydig dros wythnos cyn i bobl Cymru bleidleisio mewn etholiad hanesyddol i’r Senedd.
Mae’r arolygon barn diweddaraf yn awgrymu bydd yr etholiad yn agos tu hwnt rhwng Plaid Cymru a Reform, gyda Llafur – sydd wedi ennill pob etholiad i’r Senedd ers ei sefydlu yn 1999 – ymhell ar eu holau nhw. Mae Sir Gaerfyrddin, sy’n cwmpasu etholaethau San Steffan Caerfyrddin a Llanelli, yn ardal lle mae disgwyl brwydr hynod dynn rhwng y ddwy blaid.
Yn siarad ar Sgwâr Caerfyrddin, safle hanesyddol i’r Blaid lle cyhoeddwyd fod Gwynfor Evans wedi’i ethol fel Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn 1966, dywedodd Rhun ap Iorwerth:
"Mewn dim ond 8 diwrnod, mae gan Sir Gâr a Chymru y cyfle i wneud hanes drwy ethol y Llywodraeth Cymru gyntaf sy'n atebol i bobl Cymru yn unig.
 
“Gydag ychydig dros wythnos i fynd cyn i bobl Cymru fynd i'r gorsafoedd pleidleisio, mae'n amlwg bod yr etholiad hwn yn ras dau geffyl rhwng Plaid Cymru a Reform. I sicrhau arweinyddiaeth newydd i Gymru, cynllun go iawn i'w gyflawni, ac i atal rhaniad ac anhrefn Farage a Reform, pleidleisiwch dros Blaid Cymru.”
Ychwanegodd Cefin Campbell, yr ymgeisydd ar frig rhestr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin:
“Mae Llafur wedi gadael cymunedau ar hyd y sir hon i lawr am yn rhy hir, gan beidio rhoi cefnogaeth digonol i’n gwasanaeth iechyd, ein hysgolion a’n cynghorau lleol.
 
“Mae hi mor galonogol siarad gyda chymaint o bobl ar y stepen drws sy’n troi at Blaid Cymru fel yr unig blaid sy’n fodlon sefyll dros Gymru, rhoi arweinyddiaeth newydd i ni a rhwystro llywodraeth Reform UK.”
DIWEDD
  • Mae lluniau o Rhun ap Iorwerth ynghyd ag ymgeiswyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin - Cefin Campbell, Nerys Evans, Adam Price a Mari Arthur - gyda thyrfa o gefnogwyr Plaid Cymru wedi'i atodi.

  • Rhun ap Iorwerth yn ymweld â Chaerfyrddin cyn etholiad hanesyddol i’r Senedd

  • Ymgeiswyr Plaid Cymru i’r Senedd yn ategu galwad i amddiffyn y Sgarlets

    Ymgeiswyr Plaid Cymru i’r Senedd yn ategu galwad i amddiffyn y Sgarlets

  • Byddai 'chwyldro ynni adnewyddadwy' Plaid Cymru yn grymuso cymunedau Cymru

    Byddai Plaid Cymru yn sicrhau bod cymunedau'n elwa o adnoddau naturiol Cymru ar y llwybr tuag at annibyniaeth ynni

  • Plaid Cymru yn addo bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer gorsaf Sanclêr

    Mae Nerys Evans, un o ymgeiswyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai, wedi dweud fod y Blaid yn bwriadu symud ymlaen gyda chynlluniau i ail-agor gorsaf yn Sanclêr, ar ôl blynyddoedd o oedi.

  • Rhun ap Iorwerth yn ymweld â Llanelli ar daith yr arweinydd

    Bu Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn ymweld â Llanelli ddoe (dydd Iau, 5 Chwefror) fel rhan o’i daith o Gymru cyn etholiad y Senedd fis Mai eleni.

  • Ymgeiswyr Plaid Cymru Sir Gaerfyrddin yn trafod polisi gydag undeb amaeth

    Bu trafodaeth am rhwng Huw James, Cadeirydd Cangen Caerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ac ymgeiswyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin i'r Senedd am faterion allweddol sy’n effeithio ar amaeth yn ystod ymweliad â fferm Tyddyn Fach yn Llanfyrnach heddiw (dydd Gwener, 27 Mawrth).

  • Lansio Ymgyrch Plaid Cymru Sir Gaerfyrddin 2026

    Fe lansiodd Plaid Cymru eu hymgyrch yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer etholiad Senedd 2026 heno (dydd Llun, 3 Tachwedd), gan ddweud mai nhw yw’r “unig blaid sy’n fodlon brwydro dros beth sydd orau i Gymru a Sir Gaerfyrddin.”